Cynhaliwn nifer o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn lle gallwch gael mwy o wybodaeth am y cwrs y mae gennych ddiddordeb ynddo, bywyd myfyrwyr yng Ngholeg Penybont ar ystod eang o gefnogaeth sydd ar gael i chi:
24 Mai 2023 | 4.30pm – 6.30pm
Dewch o hyd i’r maes pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddo islaw ac archebu lle yn un o’r digwyddiadau agored sydd gennym ar y gweill.
Gwasanaethau Myfyrwyr
Bydd ein Tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn bresennol i’ch helpu gydag unrhyw ymholiadau a all fod gennych o gyngor ar gludiant a chyllid, i ganfod y gefnogaeth gywir i chi fanteisio i’r eithaf ar eich astudiaethau.
Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
Mae ein Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cynnig help a chymorth i unrhyw fyfyriwr sydd ag angen dysgu ychwanegol. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gyda dyslecsia, colli golwg neu glyw, technoleg gynorthwyol a chymorth yn yr ystafell ddosbarth.
Tîm Llesiant Myfyrwyr
Gall ein Tîm Llesiant Myfyrwyr eich cefnogi gyda phob agwedd o lesiant, o aros yn gorfforol heini i drin eich arian, neu wella eich iechyd meddwl.
Cyfleoedd
Cyfleoedd yw’r hyb gyrfaoedd yng Ngholeg Penybont. Gall y tîm eich helpu i ymchwilio cyfleoedd gyrfa i gyflawni, datblygu a sicrhau swydd gyflogedig ystyrlon.
Tiwtoriaid cwrs
Yn ogystal â’n timau cefnogi, gallwch siarad gyda tiwtoriaid cyrsiau yn ein Digwyddiadau Agored i ganfod mwy am ein cyrsiau.